Cyhoeddwyd llyfrau nodau clust er mwyn cyflwyno gwybodaeth i ffermwyr ac eraill sy’n
gysylltiedig â'r diwydiant amaethyddol.
Llyfr Nodau Clustiau Sir Feirionnydd a’r Gororau Argraffwyd yn 1974 gan yr NFU.
Cyhoeddwyd gan Gangen Meirion o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr gyda
chymeradwyaeth Heddlu Gwynedd a chyfarwyddid Gwilym Prysor Jones bugail Teithiol y Sir.
Wrth gyhoeddi'r llyfrau rhoddwyd cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad i’r gwaith a waned
gan Cwnstabl 1487 Iwan Roberts. Hoffwn hefyd dalu diolch i’w ragflaenydd, y cyn Gwnstabl
778 Steven Owen, a gychwynnodd y dasg enfawr o gasglu’r nodau ac i’r Cudd Ringyll D.A 119
Pugh. Noddwyd y llyfrau gan nifer o sefydliadau ac unigolion. Mae’n bwysig ein bod hefyd yn
rhoi cydnabyddiaeth i’r setwyr a’r rheini oedd yn eistedd ar y gwahanol bwyllgorau. Maent
wedi gwneud gwaith clodwiw dros y blynyddoedd a rydym ni bellach yn adeiladu ar hyn ac yn
casglu data am yr arfer o nodi clustiau, er mwyn helpu i warchod a diweddaru’r wybodaeth
ddiwylliannol hwn rhag cael ei colli dros amser. Dros 2026, ein nod yw dod â’r traddodiad
hwn i’r oes ddigidol drwy greu platfform rhyngweithiol ar-lein lle gall pobl chwilio am
wahanol fathau o nodau clustiau, lleoliad, deall eu hystyr, a dysgu am hanes diwylliannol yr arfer.
Trwy gasglu data cywir a manwl, byddwn yn gallu adeiladu gwefan sydd nid yn unig yn gwarchod traddodiad Nod Clust ond hefyd yn ei gwneud yn
haws i genedlaethau’r dyfodol ymgysylltu ag ef, ei ymchwilio a’i ddefnyddio. Mae’r prosiect hwn yn anelu at anrhydeddu’r gorffennol wrth
ddarparu gofod modern ar gyfer y wybodaeth.
Daliwyd wedi’r didoli yn y llyfr
pob lle’n ei drefn inni,
yn hafod a hendrefi;
rhwng dwy glwyd clustnodwyd ni.
Tegwyn Pughe Jones
Ar ddiwrnod hel os gweli - un ddiarth
Am ddianc o’r cwmni;
O’i chael a’i dal chwilia di,
Mae ateb yma iti.
Tomi Price
I ŵr a’i gi pa lyfr gwell
O nodau pob diadell?
Tomi Price