Nol yn y ** cyhoeddwyd llyfrau nodau clust gan Heddlu Gogledd Cymru er mwyn
cyflwyno gwybodaeth i ffermwyr ac eraill sy’n gysylltiedig â'r diwydiant amaethyddol.
Wrth gyhoeddi'r llyfrau rhoddwyd gydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad i’r gwaith a waned
gan Cwnstabl 1487 Iwan Roberts. Hoffwn hefyd dalu diolch i’w ragflaenydd, y cyn
Gwnstabl 778 Steven Owen, a gychwynnodd y dasg enfawr o gasglu’r nodau ac i’r Cudd
Ringyll D.A 119 Pugh. Noddwyd y llyfrau gan nifer o sefydliadau ac unigolion. Rydym ni
bellach yn adeiladu ar hyn ac yn casglu data am yr arfer o nodi clustiau, er mwyn helpu i
warchod a diweddaru’r wybodaeth ddiwylliannol hwn rhag cael eu colli dros amser. Dros
2026, ein nod yw dod â’r traddodiad hwn i’r oes ddigidol drwy greu platfform
rhyngweithiol ar-lein lle gall pobl chwilio am wahanol fathau o nodau clustiau, lleoliad,
deall eu hystyr, a dysgu am hanes diwylliannol yr arfer.
Trwy gasglu data cywir a manwl, byddwn yn gallu adeiladu gwefan sydd nid yn unig yn
gwarchod traddodiad Nod Clust ond hefyd yn ei gwneud yn haws i genedlaethau’r dyfodol
ymgysylltu ag ef, ei ymchwilio a’i ddefnyddio. Mae’r prosiect hwn yn anelu at
anrhydeddu’r gorffennol wrth ddarparu gofod modern ar gyfer y wybodaeth.
Daliwyd wedi’r didoli yn y llyfr
pob lle’n ei drefn inni,
yn hafod a hendrefi;
rhwng dwy glwyd clustnodwyd ni.
Tegwyn Pughe Jones
Ar ddiwrnod hel os gweli - un ddiarth
Am ddianc o’r cwmni;
O’i chael a’i dal chwilia di,
Mae ateb yma iti.
Tomi Price
I ŵr a’i gi pa lyfr gwell
O nodau pob diadell?
Tomi Price