Mae clustnodi defaid yn un o’r dulliau hynaf o adnabod da byw ym Mhrydain, gyda gwreiddiau dwfn yn nhraaddodiadau ffermio mynyddig Cymru.
Mewn systemau pori ucheldirol a chomin—lle byddai praidd o wahanol ffermydd yn cymysgu’n rhydd ar lethrau agored y mynyddoedd—roedd angen dull clir o adnabod perchnogaeth. Datblygodd pob fferm ei nod clust unigryw ei hun, fel arfer yn doriad bach, rhic, neu gyfuniad o riciau mewn safleoedd penodol ar y glust, gan greu “llofnod” unigryw i’r daliad hwnnw.
Yn hanesyddol, roedd y marciau hyn yn rhan o hunaniaeth a threftadaeth pob fferm. Trosglwyddwyd nodau clustiau o genhedlaeth i genhedlaeth ar fferm, ac fe’u cofnodwyd a’u datblygu dros amser. Gan nad oedd system ddigidol ganolog, roedd gwybodaeth am y marciau hyn yn cael ei chadw’n ofalus mewn llyfrau nodiadau fferm wedi’u hysgrifennu â llaw, llyfrau cofnodion ystadau, a chofnodion lleol. Byddai ffermwyr yn braslunio nod clust â llaw, yn aml gyda disgrifiadau ysgrifenedig megis “torri blaen y glust dde” gan sicrhau bod bugeiliaid a ffermydd cyfagos yn gallu adnabod y stoc yn gyflym. Mae dull penodol o ddarllen nod.
Sheep ear marking is one of the oldest methods of livestock identification in Britain, with deep roots in Welsh hill farming traditions.
In upland and common grazing systems—where flocks from different farms would mix freely on open mountainsides—clear visual identification was essential. Each holding developed its own distinctive ear mark, usually a small cut, notch, or combination of notches in specific positions on the ear, forming a unique “signature” for that farm.
Historically, these marks were far more than practical tools—they were part of the identity and heritage of each holding. Generations of farmers passed down their earmark patterns, often recorded and refined over time. Because there was no central digital system, knowledge of these marks was carefully preserved in handwritten farm notebooks, estate ledgers, and local record books. Farmers would sketch each ear mark by hand, often alongside written descriptions such as “split in right ear” or “nick on left ear tip,” ensuring that shepherds and neighbouring farms could recognise stock quickly on sight.
Roedd y cofnodion hyn yn arbennig o bwysig yn ystod symudiadau tymhorol megis hel mynydd, ffeiriau, a marchnadoedd, pan fyddai defaid o lawer o ffermydd yn cael eu casglu gyda’i gilydd. Roedd adnabod cywir yn helpu i osgoi anghydfodau dros berchnogaeth ac yn galluogi ffermwyr i adfer anifeiliaid oedd wedi crwydro o’u cynefin. Mewn llawer o gymunedau gwledig, roedd gwybodaeth am nodau clust lleol hefyd yn cael ei rhannu’n anffurfiol, gan ddod yn rhan o wead cymdeithasol bywyd ffermio.
Dros amser, cyflwynwyd systemau adnabod swyddogol, ac heddiw mae cyfraith y DU yn ei gwneud yn ofynnol i ddefaid gael tagiau clust. Serch hynny, mae nodi traddodiadol yn dal i fod â phwysigrwydd diwylliannol mewn llawer o gymunedau ffermio yng Nghymru. Mae’n cynrychioli parhad â’r gorffennol, atgof o sgil a gwybodaeth cenedlaethau blaenorol, a’r berthynas agos rhwng ffermwyr, eu tir, a’i praidd.
Gyda’i gilydd, mae adnabod modern a marcio clustiau traddodiadol yn adlewyrchu esblygiad ffermio defaid yng Nghymru—gan gyfuno treftadaeth, ymarferoldeb, a safonau modern rheoli da byw.
These records were especially important during seasonal movements such as hill grazing, fairs, and markets, where sheep from many different farms would be gathered together. Accurate recognition helped prevent disputes over ownership and allowed farmers to reclaim stray animals from common land. In many rural communities, knowledge of local ear marks was shared informally as well, becoming part of the unwritten social fabric of farming life.
Over time, official identification systems were introduced, and today UK law requires sheep to carry approved ear tags for traceability and disease control. However, traditional ear marking still holds cultural significance in many Welsh farming communities. It represents continuity with the past, a reminder of the skill and knowledge of earlier generations, and the close relationship between farmers, their land, and their flocks.
Together, modern identification and traditional ear marking reflect the evolution of sheep farming in Wales—blending heritage, practicality, and modern standards of animal management.